Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:32 - 12:13 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Byron Davies Keith Davies Julie James Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates Joyce Watson Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Tim James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio Martin Evans, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau’r Gweinidog.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch yr hyn a ganlyn:
- Pan fydd yn briodol, y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf ysgrifenedig yn rhoi manylion am gynigion y Gweinidog ynghylch cludo nwyddau, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o’r camau tuag at ddarparu a nodwyd yn Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru;
- Manylion am y trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd arfaethedig ar gyfer yr M4;
- Manylion am waith a wnaed i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de;
- Y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn trafodaethau ar y cynllun newydd ar gyfer cyllido bysiau, a darparu’r dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant y cynllun;
- Mwy o fanylion am ffigurau sylfaenol cyfraddau’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a chymhariaeth â Lloegr, gan gynnwys cymhariaeth o gyfraddau’r grant cyn eu lleihau, a chymhariaeth o’r cyfraddau newydd yng Nghymru a Lloegr ar ôl cynnwys pob lwfans ac ad-daliad ychwanegol sydd ar gael;
- Copi o’r gwaith a wnaed gan gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar drafnidiaeth ysbyty nad yw ar gyfer achosion brys;
- Mwy o wybodaeth am gyflawni a chyllido’r cynllun gweithredu cerdded a seiclo, gan gynnwys cyfraddau llwyddiant a’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r cynllun;
- Ffigurau sy’n dangos yr hyn y mae’r Canolfannau Teithio Cynaliadwy wedi’i gyflawni ynghyd â manylion am y cyllid refeniw a ddyrannwyd i’r cynllun Trefi Teithio Cynaliadwy, yn hanesyddol ac ar gyfer y tair blynedd nesaf.
3. Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Martin Evans a’r Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tystion.
3.2 Bydd y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn cael eu hanfon at yr Athro Cole, a gytunodd i ddarparu nodyn.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.
5. Trafod y Flaenraglen Waith - Ystyried ymchwiliad ar gyfer y dyfodol
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru a chytunodd ar y cylch gorchwyl drafft, er y bydd ambell newid yn cael ei wneud iddo.
6. Papurau i'w nodi
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.